Mae Seion wan yn griddfan
dàn y groes,
Yn dysgwyl gwawr, ar lawr
dàn lawer loes:
Bywha dy waith,
ni phery 'nhaith yn hir;
'Rwy'n ofni'r bedd,
heb wel'd dy wedd, yn wir.
Addewid sydd
o hyfryd ddydd i ddod,
O fan i fan
yn rhyfedd dan y rhòd;
Sancteiddrwydd fydd
i'r Arglwydd yn mhob lle,
A dedwydd ddydd
gan wên ei wyneb E'.
Mae brodyr im
a thadau aeth ymlaen,
Fu yn y byd
yn nyfnder dŵr a thân;
Maent heddyw'n iach,
heb ofni plâ, na phoen,
Yn Salem fry
yn moli'r addfwyn Oen.
Terfysgu'r wyf
dàn flinder llawer loes,
Dych'mygion gau, a griddfan
dàn y groes;
A'm Iesu'n fwyn
yn dwyn Ei waith i ben,
A phob rhyw beth 'n ol
arfaeth nefoedd wèn.
1 : David Jones 1763-18222,3: William Jones 1784-1847 4 : Casgliad Trefnyddion Calfinaidd y De 1841
Tonau [10.10.10.10]: |
Weak Zion is groaning
under the cross,
Waiting for the dawn, on earth
under many a pang:
Revive thy work,
nor prolong my journey;
I am fearing the grave,
without seeing thy face, truly.
A promise there is
of a delightful day to come,
From place to place
wonderful under the sky;
Sacredness there shall be
to the Lord in every place,
And a happy day
under the smile of his face.
Brothers to me
and fathers went ahead,
Who were in the world
in the depth of water and fire;
Today they are safe,
fearing neither plague nor pain,
In Salem above
praising the gentle Lamb.
I am getting agitated
under the affliction of many a pang,
False imaginings, and
groaning under the cross;
And my Jesus gentle,
bringing His work to fulfilment,
And every kind of thing according to
the purpose of blessed heaven.
tr. 2015,20 Richard B Gillion
|
|